Defnyddiwch y datganiad hygyrchedd enghreifftiol hwn i lunio datganiad ar gyfer eich gwefan neu ap symudol sector cyhoeddus eich hun. Mae rhai cymalau’n ofynnol yn ôl y gyfraith, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y rheini yn eich datganiad.

Mae’r datganiad enghreifftiol hwn yn seiliedig ar y templed a gyhoeddwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, sy’n nodi pa wybodaeth sy’n rhaid ei chynnwys mewn datganiad hygyrchedd, ac ar ein hymchwil ni o ran beth sy’n ddefnyddiol i ddefnyddwyr gwefannau anabl.

Mae’n rhaid i sefydliadau yn y sector cyhoeddus gyhoeddi datganiad hygyrchedd er mwyn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd.

Rhaid cynhyrchu holl ddatganiadau hygyrchedd Llywodraeth Cymru yn ddwyieithog. At y diben hwn, rydym wedi llunio Templed Cymraeg, sy’n dilyn yr un strwythur.

Dyma ddatganiad hygyrchedd enghreifftiol ar gyfer gwefan corff cyhoeddus dychmygol. Mae’n cynnwys cymalau enghreifftiol ac arweiniad ar yr hyn y dylid ei gynnwys yn eich datganiad.

Defnyddio’r wefan hon

Caiff y wefan hon ei chynnal gan Lywodraeth Cymru. Rydym ni eisiau i gymaint o bobl ag sy’n bosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo i mewn hyd at 300% a bod y testun i gyd yn dal i ffitio ar y sgrin
  • symud o gwmpas y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • symud o gwmpas y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml, ac mor hawdd i’w ddeall ag sy’n bosib.

Hygyrchedd y wefan hon

Mae cyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i’w ddefnyddio os oes gennych chi anabledd ar gael ar AbilityNet.

Rydym ni’n ymwybodol nad yw rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • ni fydd y testun yn ail-lifo i un golofn pan fyddwch chi’n newid maint ffenestr y porwr
  • ni allwch addasu uchder llinellau na’r bwlch rhwng y testun
  • nid yw pob math o feddalwedd darllen sgrin yn gallu delio â llawer o hen ddogfennau PDF yn dda iawn
  • nid oes capsiynau ar ffrydiau fideo byw
  • mae’n anodd defnyddio dim ond y bysellfwrdd i symud o amgylch rhai o’n ffurflenni ar-lein
  • allwch chi ddim neidio i’r prif gynnwys os ydych chi’n defnyddio darllenydd sgrin
  • dim ond hyn a hyn y gallwch chi chwyddo’r map ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’

Beth i’w wneud os na allwch chi gael mynediad at rannau o’r wefan hon

Os oes angen gwybodaeth ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

  • anfonwch e-bost at swyddfa BlasCymru / TasteWales: bwyd-food@gov.wales, ffoniwch / 03000 250211

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 2 ddiwrnod.

Os nad ydych chi’n gallu gweld y map ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’, ffoniwch neu anfonwch e-bost at bwyd-food@gov.wales 03000 250211 am gyfarwyddiadau.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd yn ymwneud â’r wefan hon

Rydym ni bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw broblemau sydd heb eu nodi ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n credu nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â: bwyd-food@gov.wales, neu ffoniwch 03000 250211.

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os ydych chi’n anhapus â’r ffordd rydym ni’n ymateb i’ch cwyn, mae croeso i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni

Rydym ni’n darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl B/byddar, sydd â nam ar y clyw, neu sydd â nam ar y lleferydd.

Rydym ni wedi gosod dolenni sain yn ein swyddfeydd, neu os byddwch chi’n cysylltu â ni ymlaen llaw gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain.

Sut i gysylltu â ni

  • e-bost: bwyd-food@gov.wales
  • Ffôn: 03000 250211

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd 2018.

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, o ganlyniad i’r materion isod sydd ddim yn cydymffurfio.

Problemau gyda thechnoleg

Dim problemau yn codi

Problemau enghreifftiol:

Nid yw defnyddwyr yn gallu addasu uchder llinell neu fwlch rhwng llinellau.

Nid oes ffordd o newid y cyferbyniad rhwng lliwiau’r wefan.

Rydym wedi asesu’r gost o ddatrys y materion hyn ond rydym yn credu y byddai gwneud hynny’n awr yn gosod baich anghymesur yn ôl ystyr y diffiniad yn y rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn cynnal asesiad arall pan fyddwn yn ail-ddatblygu’r wefan yn sylweddol. Mae’n debyg y byddwn yn gwneud hyn ym mis [Medi 2020].

Problemau gyda thestun

Dim problemau yn codi

Problemau enghreifftiol:

Mae gan ddolenni testun gynnwys addas sy’n golygu y gellir eu darllen allan o gyd-destun. Mae’r cynnwys hwn wedi’i guddio ar sgrin ond mae darllenwyr sgrin yn gallu ei weld.

Problemau gyda PDFs a dogfennau eraill

Nid yw llawer o’n ffeiliau PDF na’n dogfennau Word hŷn yn bodloni safonau hygyrchedd – er enghraifft, efallai nad ydynt wedi’u marcio eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin.

Mae rhai o’n dogfennau PDF a Word yn hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF sy’n cynnwys gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gael gafael ar ein gwasanaethau, yn ogystal â ffurflenni sy’n cael eu cyhoeddi ar ffurf dogfennau Word. Erbyn mis Medi 2020, rydym yn bwriadu trwsio’r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle. Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn mynnu ein bod yn trwsio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Ni fydd y wefan yn cynnwys dogfennau PDF na dogfennau Word o fis Medi 2020 ymlaen.

Problemau gyda delweddau, fideos a sain

Dim problemau yn codi

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideos byw wedi’u heithrio o’r rheoliadau hygyrchedd.

Rydym yn bwriadu ychwanegu testun amgen at ddelweddau ar yr hafan erbyn mis Medi 2020. Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideos byw wedi’u heithrio o’r rheoliadau hygyrchedd.

Problemau gydag elfennau rhyngweithiol a thrafodio

Dim problemau yn codi.

Sut rydym ni’n profi’r wefan hon

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar [30 Mawrth 2020]. Cynhaliwyd y prawf gan [Gwmni Orchard Media and Events Cyf].

Profwyd y safleoedd drwy ddefnyddio’r bar offer WAVE ar https://webaim.org. Porwr Google Chrome gyda Lighthouse Audit ar gael yn Offer y Datblygwr. Gwnaethom hefyd gynnal prawf darllenydd sgrin drwy ddefnyddio’r fersiwn diweddaraf o NVDA ar gyfer Windows.

Rydym wedi profi:

  • ein microwefannau ymgyrch sef tastewales.com a blascymru.com

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Paratowyd y datganiad hwn ar 30/03/2020. Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar 30/03/2020.