Bydd Llywodraeth Cymru yn casglu gwybodaeth am unigolion (sy’n cynrychioli busnesau, prynwyr masnachol (cenedlaethol a rhyngwladol) a rhanddeiliaid allweddol eraill) sy’n mynegi diddordeb mewn dod i BlasCymru/TasteWales, y digwyddiad Bwyd a Diod mwyaf yng Nghymru.
Drwy lenwi’r ffurflen rydych chi’n rhoi caniatâd i Lywodraeth Cymru ddarparu gwybodaeth i chi am BlasCymru/TasteWales. Os byddwch yn dewis peidio â chymryd rhan gallwch wneud hynny ar unrhyw adeg. Rhowch wybod i swyddfa BlasCymru/TasteWales (manylion isod) a bydd eich manylion yn cael eu tynnu oddi ar gofrestr BlasCymru/TasteWales.
Bydd y contractwr (Orchard Media) sy’n gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn crynhoi’r wybodaeth a geir.
Bydd yr wybodaeth a gedwir ar y gronfa ddata yn cynnwys:
- Enw, sefydliad, cyfeiriad y busnes, e-bost y busnes, rhif ffôn y busnes, cyfeiriad gwefan y busnes, sianeli cyfryngau cymdeithasol y busnes.
Caiff y data hwn ei rannu gyda’r sefydliadau sydd wedi eu contractio gan Lywodraeth Cymru i gyflawni BlasCymru/TasteWales yn unig, ac i ddim pwrpas arall.
Bydd eich manylion yn cael eu cadw am hyd at ddwy flynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi hawl:
- i gael mynediad at y data personol mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw amdanoch chi;
- mynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hwnnw;
- gwrthwynebu neu atal prosesu (mewn rhai amgylchiadau);
- i’ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau);
- yr hawl i roi cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Dyma’r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Customer Contact, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk
I gael cymorth gydag unrhyw un o’r hawliau uchod, cysylltwch â Llinell Gymorth Busnes Cymru 03000 6 03000 neu defnyddiwch y ffurflen i gysylltu â ni https://businesswales.gov.wales/cy/cysylltwch-a-ni
Cysylltu: Swyddfa BlasCymru/TasteWales Sally Harcourt: sally.harcourt@gov.wales
Ffôn: 07795 336902.