Mae’r Polisi Cwcis hwn yn egluro beth yw cwcis a sut rydym yn eu defnyddio. Dylech ddarllen y polisi hwn i ddeall beth yw cwcis, sut rydym yn eu defnyddio, y math o gwcis rydym yn eu defnyddio h.y, yr wybodaeth rydym yn ei chasglu wrth ddefnyddio cwcis, a sut mae’r wybodaeth honno’n cael ei defnyddio a sut i reoli’r dewisiadau cwcis. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn cadw ac yn diogelu eich data personol, edrychwch ar ein Polisi Preifatrwydd.

Gallwch newid neu dynnu eich caniatâd yn ôl o’r Datganiad Cwcis ar ein gwefan ar unrhyw adeg.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am bwy ydym ni, sut i gysylltu â ni a sut rydym yn prosesu data personol yn ein Polisi Preifatrwydd.

Mae eich caniatâd yn berthnasol i’r parthau canlynol: www.tastewales.com, www.blascymru.com

Eich dewis presennol: Heb roi caniatâd. Rheoli eich caniatâd.

Beth yw cwcis ?

Ffeiliau testun bychan yw cwcis sy’n cael eu defnyddio i gadw darnau bach o wybodaeth. Mae’r cwcis yn cael eu cadw ar eich dyfais pan fyddwch yn llwytho’r wefan ar eich porwr. Mae’r cwcis hyn yn ein helpu ni i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn, gwneud y wefan yn fwy diogel, darparu profiad gwell i’r defnyddiwr, a deall sut mae’r wefan yn perfformio a dadansoddi beth sy’n gweithio a pha rannau sydd angen eu gwella.

Sut ydym ni’n defnyddio cwcis ?

Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o wasanaethau ar-lein, mae ein gwefan yn defnyddio cwcis parti cyntaf a chwcis trydydd parti ar gyfer nifer o ddibenion. Mae’r cwcis parti cyntaf yn angenrheidiol gan fwyaf er mwyn i’r wefan weithio’n gywir, a dydyn nhw ddim yn casglu data a fydd yn galluogi eich adnabod yn bersonol.

Mae’r cwcis trydydd parti a ddefnyddir ar ein gwefannau’n cael eu defnyddio’n bennaf er mwyn deall sut mae’r wefan yn perfformio, sut rydych chi’n rhyngweithio â’n gwefan, cadw ein gwasanaethau’n ddiogel, darparu hysbysebion sy’n berthnasol i chi, ac at ei gilydd yn darparu profiad gwell i chi fel defnyddiwr a helpu i gyflymu eich rhyngweithio â’n gwefan yn y dyfodol.

Pa fathau o gwcis ydym ni’n eu defnyddio ?

Hanfodol: Mae rhai cwcis yn hanfodol i chi allu defnyddio swyddogaethau llawn ein gwefan. Maen nhw’n ein galluogi i gynnal sesiynau defnyddwyr ac atal unrhyw fygythiadau diogelwch. Dydyn nhw ddim yn casglu nac yn cadw unrhyw wybodaeth

bersonol. Er enghraifft, mae’r cwcis hyn yn eich galluogi i fewngofnodi i’ch cyfrif ac ychwanegu cynnyrch i’ch basged a mynd i’r sgrin talu yn ddiogel.

Ystadegau: Mae’r cwcis hyn yn cadw gwybodaeth fel nifer yr ymwelwyr â’r wefan, nifer yr ymwelwyr unigryw, pa dudalennau yr ymwelwyd â nhw ar y wefan, ffynhonnell yr ymweliad, ac ati. Mae’r data yn ein helpu i ddeall a dadansoddi pa mor dda mae’r wefan yn perfformio a pha rannau sydd angen eu gwella.

Marchnata: Mae ein gwefan yn arddangos hysbysebion. Mae’r cwcis hyn yn cael eu defnyddio i bersonoli’r hysbysebion rydym yn eu dangos fel eu bod yn berthnasol i chi. Mae’r cwcis hyn hefyd yn ein helpu i gadw golwg ar effeithlonrwydd yr ymgyrchoedd hysbysebu hyn.

Gall yr wybodaeth a gedwir yn y cwcis hyn hefyd gael eu defnyddio gan ddarparwyr hysbysebion trydydd parti i ddangos hysbysebion i chi ar wefannau eraill ar eich porwr hefyd.

Swyddogaethol: Y rhain yw’r cwcis sy’n helpu swyddogaethau dianghenraid penodol ar ein gwefan. Mae’r swyddogaethau hyn yn cynnwys plannu cynnwys fel fideos neu rannu cynnwys y wefan ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Dewisiadau: Mae’r cwcis hyn yn ein helpu i gadw eich gosodiadau a’ch dewisiadau pori fel dewisiadau iaith i sicrhau eich bod yn cael profiad gwell ac effeithlon pan fyddwch yn ymweld â’r wefan yn y dyfodol.

Mae’r rhestr isod yn nodi’r cwcis a ddefnyddir ar ein gwefan.

Sut alla i reoli’r dewisiadau cwcis ?

Os ydych chi’n penderfynu newid eich dewisiadau yn ddiweddarach yn ystod eich sesiwn pori, gallwch glicio ar y tab “Polisi Preifatrwydd a Chwcis” ar eich sgrin. Bydd yn dangos yr hysbysiad caniatâd eto ac yn eich galluogi i newid eich dewisiadau neu dynnu eich caniatâd yn ôl yn gyfan gwbl.

Hefyd, mae porwyr gwahanol yn cynnig ffyrdd gwahanol o rwystro a dileu’r cwcis a ddefnyddir gan wefannau. Gallwch newid gosodiadau eich porwr i rwystro/dileu’r cwcis. I gael mwy o wybodaeth am sut i reoli a dileu cwcis, ewch i wikipedia.org, www.allaboutcookies.org.