Cwrdd â’r Prynwr
Cynhadledd
Arddangosfa
Mae gan Gymru ddiwydiant bwyd a diod bywiog, sy’n amrywio o fusnesau artisan bach i gwmnïau bwyd mwy. Mae’r busnesau hyn yn gwerthu pob math o gynnyrch – o eitemau arbenigol ar gyfer marchnadoedd penodol i eitemau ar raddfa fawr ar gyfer rhwydweithiau dosbarthu sylweddol.
Yn dilyn llwyddiant ysgubol y digwyddiad yn 2019, bydd BlasCymru/TasteWales 2021 yn dod â chynhyrchwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant bwyd at ei gilydd ar gyfer cynhadledd a digwyddiad bwyd a diod rhyngwladol nodedig, a fydd yn cael eu cynnal yn adeilad newydd a chyffrous Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru am y tro cyntaf.
Llwyddiant y Digwyddiad
Dyma brif lwyddiannau BlasCymru/TasteWales 2019:
- Dros 780 o gynadleddwyr wedi cymryd rhan.
- Dros 1600 o gyfarfodydd busnes un-i-un wedi cael eu hwyluso, sydd (hyd yn hyn) wedi esgor ar £6.2m o gytundebau busnes newydd a bron i £22m o fusnes newydd ychwanegol posib i gynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru.
- Lansio 159 o gynhyrchion bwyd a diod newydd ac arloesol o Gymru.
- Dros 190 o brynwyr masnachol wedi dod i’r digwyddiad, i gwrdd â dros 100 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru.
Pwy ddylai ddod?
Mae BlasCymru yn addas i chi os ydych chi’n gynhyrchydd yng Nghymru, yn brynwr cenedlaethol neu ryngwladol, neu’n ymwneud â’r canlynol:
- Gwasanaethau bwyd a lletygarwch, arlwyo, caffis, tai llety, gwestai, tafarndai a bwytai.
- Adwerthu – siopau delicatessen, siopau groser, siopau fferm, archfarchnadoedd a chwmnïau annibynnol.
- Sector cyhoeddus – ysgolion, colegau, ysbytai.